HMD 2012 Primary Assembly - Welsh Translation
Gwasanaeth Cynradd – Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2
Isod ceir dau wasanaeth sy’n seiliedig ar thema eleni sef Dweud eich dweud, Dweud eich barn. Mae’r darn cyntaf yn sôn am ddyn dewr ac arbennig o’r enw Dr Ludwig Guttmann, ac mae’r ail ddarn yn adrodd stori y gallwn ni gyd ddysgu ohoni.
Adnoddau:
- llun o’r symbol Dweud eich dweud, Dweud eich barn, naill ai gan ddefnyddio’r uwchdaflunydd neu gan ddefnyddio’r poster sydd ar gael yn y Pecyn Ymgyrchu sy’n rhad ac am ddim
- cerdd – We Remember Them gan Sylvan Kamens a Rabbi Jack Riemer
Sgript:
Heddiw rydym yn mynd i ddysgu am Ddiwrnod Cofio’r Holocost. Ydych chi wedi clywed amdano o’r blaen? Dyma’r symbol ar gyfer heddiw.
Bob blwyddyn ar Ionawr 27 rydym yn dysgu am ddigwyddiadau sydd wedi digwydd yn y gorffennol, weithiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae rhai digwyddiadau trist iawn, lle roedd llawer o bobl wedi dioddef ond rydym yn gobeithio y gallwn ddysgu ohonynt a chofio am y bobl a oedd yn ddewr tra’n byw yn ystod yr amserau anodd hyn.
Eleni, y thema ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost yw Dweud eich dweud, Dweud eich barn. Hoffwn rannu stori gyda chi am ddyn dewr iawn a oedd yn byw yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd ac a wnaeth bethau arbennig iawn.
Ganed Ludwig Guttmann yn 1899 i deulu Iddewig yng Ngwlad Pwyl. Yna symudodd i’r Almaen. Roedd Ludwig yn blentyn egnïol, roedd yn hoff iawn o chwaraeon ac yn ystod ei ieuenctid roedd yn un o arweinwyr y Sgowtiaid. Roedd hefyd yn alluog, yn ddisgybl delfrydol a oedd â diddordeb mewn hanes ond roedd ganddo uchelgais gref i fod yn feddyg. Yn 1918, gwirfoddolodd Ludwig i helpu mewn ysbyty i fwyngloddwyr a anafwyd a chafodd ei swydd gyntaf mewn meddygaeth.
Yn yr ysbyty, daeth i adnabod claf a oedd wedi cael ei barlysu mewn damwain yn ddiweddar. Pan ddechreuodd Ludwig wneud nodiadau, dywedodd uwch feddyg wrtho ‘paid â thrafferthu’. Nid anghofiodd Ludwig am y claf hwn a bu’r profiad yn un a greodd argraff ddofn arno.
Yna aeth Ludwig i Brifysgol Freiburg i astudio meddygaeth. Profodd fwlio a hiliaeth ar y campws oherwydd ei grefydd a gweithiodd gyda myfyrwyr Iddewig eraill i’w amddiffyn ei hun ac eraill lle roedd yn bosibl. Yn 1924 roedd wedi cymhwyso fel meddyg ac aeth ati i chwilio am swydd mewn ysbyty. Trwy lwc, cafodd swydd mewn niwrolawdriniaeth a datblygodd enw da iddo’i hunan fel arbenigwr yn y maes.
Yn 1933 wrth i Lywodraeth yr Almaen newid, collodd ei swydd yn yr ysbyty oherwydd ei grefydd. Collodd yr Iddewon lawer o’u hawliau yn ystod yr adeg hon. Felly aeth Dr Guttmann i weithio mewn ysbyty Iddewig lle daeth yn gyfarwyddwr. Yn ei swydd fel cyfarwyddwr, amddiffynnodd yr Iddewon rhag cael eu halltudio a’u carcharu, gan honni nad oeddent yn ddigon iach i gael eu symud. Erbyn 1939, gwaethygodd y sefyllfa i Iddewon Almaenaidd a phan gafodd Dr Guttmann y cyfle i symud i’r Deyrnas Unedig gyda’i deulu, achubodd ar y cyfle i adael yr Almaen.
Mae’n debyg mai’r penderfyniad i symud i’r Deyrnas Unedig a achubodd fywyd Dr Guttmann; yn ddiweddarach yn 1939 dechreuodd yr Ail Ryfel Byd a bellach doedd yr Iddewon ddim yn ddiogel yn yr Almaen. Creodd fywyd newydd a gyrfa iddo’i hun yn ei gartref newydd. Yn 1943, agorodd Dr Guttmann y ganolfan gyntaf yn y Deyrnas Unedig a oedd yn arbenigo mewn anafiadau ar linyn y cefn, yn Stoke Mandeville, Swydd Buckingham.
Daeth Dr Guttmann yn gyfarwyddwr yn yr ysbyty newydd a dechreuodd oruchwylio’r cleifion. Gan gofio am ei brofiad cynnar gyda’r dyn a barlyswyd, ymchwiliodd Dr Guttmann i ddulliau eraill o roi triniaeth yn Stoke Mandeville. Un o’r meysydd y gwnaeth Dr Guttmann ymchwilio iddo oedd chwaraeon i bobl anabl. Ar ôl trio sawl math gwahanol o chwaraeon penderfynodd Dr Guttmann ar nifer o wahanol fathau o chwaraeon yr oedd am i’w gleifion roi cynnig arnynt wrth iddynt wella. Gwelwyd buddion amlwg; roedd cleifion nid yn unig yn gwneud ymarfer corff angenrheidiol ond roeddent hefyd yn meithrin hyder wrth gymryd rhan mewn cystadlaethau. Erbyn 1948, penderfynodd Dr Guttmann y dylai chwaraeon fod yn weithgaredd swyddogol yng Nghanolfan Stoke Mandeville felly aeth ati i drefnu cystadleuaeth go iawn.
Ar yr 28ain o Orffennaf 1948, sef yr un diwrnod â diwrnod cyntaf y Gemau Olympaidd yn Llundain, cynhaliwyd gemau cyntaf Stoke Mandeville i gleifion anabl. Dewiswyd y dyddiad yn gwbl fwriadol – credai Guttmann fod pobl anabl yn haeddu cydnabyddiaeth o fewn cymdeithas a’r cyfle i ddangos eu galluoedd. Ymhen pedair blynedd, daeth gemau blynyddol Stoke Mandeville mor boblogaidd, yn 1952 fe wnaeth tîm o gyn-filwyr anabl Iseldireg gystadlu yn erbyn cleifion Prydeinig. Parhaodd y digwyddiad i fod yn boblogaidd, gan ddenu sylw rhyngwladol ac yn 1960 cafodd y gemau eu cynnal yn Rhufain yn dilyn y Gemau Olympaidd a gynhaliwyd yno yn gynharach yn y flwyddyn.
Datblygodd y gemau hynny, sef yr hyn a elwir erbyn heddiw’n Gemau Paralympaidd, a chânt eu cynnal bob pedair blynedd ar ôl y Gemau Olympaidd. Yn 2012 bydd y Gemau Paralympaidd yn dychwelyd i’w tarddle, Prydain Fawr. Bydd athletwyr dros y byd i gyd yn cystadlu mewn lleoliadau ym Mhrydain, un o’r rhain fydd Stadiwm Guttmann yn Stoke Mandeville.
Roedd Dr Ludwig Guttmann yn ddyn dewr a phenderfynol. Pan roedd yn yr Almaen fe siaradodd o blaid eraill a cheisiodd eu cadw’n ddiogel. Tra roedd yn byw ac yn gweithio yn Lloegr, manteisiodd ar ei safle yn y gymdeithas i siarad o blaid pobl ag anableddau a chreodd lwyfan iddynt ddangos eu cryfderau yn rhyngwladol.
Ludwig oedd un o’r rhai lwcus – roedd symud i Loegr yn bendant wedi achub ei fywyd. Ond yn ystod yr adeg hon, roedd miliynau o bobl yn llai ffodus a bu farw llawer ohonynt. Mae heddiw’n ddiwrnod i gofio am y bobl hynny.
Cerdd
At the rising of the sun and at its going down
We remember them.
At the blowing of the wind and in the chill of winter
We remember them.
At the opening of the buds and in the rebirth of spring
We remember them.
At the blueness of the skies and in the warmth of summer
We remember them.
At the rustling of the leaves and in the beauty of autumn
We remember them.
At the beginning of the year and when it ends
We remember them.
As long as we live, they too will live;
for they are now a part of us
as we remember them.
When we are weary and in need of strength
We remember them.
When we are lost and sick at heart
We remember them.
When we have joy we crave to share
We remember them.
When we have decisions that are difficult to make
We remember them.
When we have achievements that are based on theirs
We remember them.
As long as we live, they too will live;
for they are now a part of us
as we remember them.
© Jewish Prayer Book/ Sylvan Kamens a Rabbi Jack Riemer
- Primary Assembly - Welsh Translation (PDF: 90136 KB)
