HMD 2012 Secondary Assembly - Welsh Translation
Gwasanaeth Ysgol Uwchradd – Cyfleu Gwybodaeth – Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 a 4
Isod ceir dau wasanaeth sy’n seiliedig ar thema Diwrnod Cofio’r Holocost 2012, Dweud eich dweud, Dweud eich barn. Mae’r cyntaf yn cyfleu gwybodaeth, tra bod yr ail yn gwahodd myfyrwyr i ryngweithio.
Adnoddau:
- poster Dweud eich dweud, Dweud eich barn gyda symbol Diwrnod Cofio’r Holocost 2012
hefyd ar gael yn y Pecyn Ymgyrchu sy’n rhad ac am ddim neu ffoniwch 0845 838 1883. Mae hefyd ar gael ar-lein – Dilynwch y ddolen gyswllt ‘Activity Listings Poster’
- astudiaeth achos Brian Steidle neu’r ddolen gyswllt i’r ffilm
- copi o’r gerdd gan y Gweinidog Martin Niemoller, ‘First they came…’
Sicrhewch fod eich cynlluniau gwersi a deunydd yr astudiaethau achos yn addas ar gyfer eich myfyrwyr cyn dechrau eich gwers. Efallai bydd rhai astudiaethau achos yn peri gofid i rai myfyrwyr.
Sgript:
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn gyfle i bawb ddysgu gwersi o’r Holocost, erledigaeth y Natsïaid a’r achosion o hil-laddiad sydd wedi digwydd ers hynny.
Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost rydym yn cofio am y miliynau o bobl a lofruddiwyd yn yr Holocost a’r achosion o hil-laddiad yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Ond pam ein bod yn gwneud hyn? Digwyddodd yr Holocost dros 60 o flynyddoedd yn ôl ac rydym yn dysgu amdano mewn gwersi hanes yn yr ysgol – felly pam neilltuo diwrnod hefyd?
Wel, cafodd miliynau o bobl eu lladd yn fwriadol yn ystod yr achosion o hil-laddiad, nid ar ddamwain ond trwy weithredoedd oedd wedi eu cynllunio. Cafodd pobl o bob oedran eu targedu gan gynnwys yr henoed, plant a babanod a hyd yn oed pobl ifanc eich oedran chi.
Ac er i bobl ddweud na ddylai’r Holocost fyth ddigwydd eto, cafwyd achosion eraill o hil-laddiad ers hynny. Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod i feddwl a chofio am y digwyddiadau hyn.
Datblygodd y Natsïaid a’u cefnogwyr gyfreithiau hiliol a oedd yn gwahardd grwpiau gwahanol o’r gymdeithas Almaeneg gan gynnwys pobl Iddewig, Sipswn a phobl Ddu. Dros gyfnod o amser, collodd y bobl hyn eu hawliau, eu hurddas, a’u rhyddid a chollodd lawer ohonynt eu bywydau. Cafodd pobl a oedd yn perthyn i grwpiau gwleidyddol gwahanol eu carcharu ynghyd â nifer o bobl eraill nad oeddent yn cydymffurfio â ffordd o fyw’r Natsïaid, gan gynnwys dynion hoyw. Yn aml ar ôl iddynt gael eu carcharu, byddent yn cael eu lladd. Roedd pobl a chanddynt anableddau a salwch etifeddol hefyd yn cael eu carcharu a’u lladd.
Ni wnaeth yr Holocost a’r erledigaeth a ddioddefodd nifer o grwpiau eraill a gafodd eu targedu mewn achosion o hil-laddiad ddigwydd dros nos. Roedd y cyfreithiau llym a’r rheol o wahardd Iddewon rhag cymdeithas yr Almaen wedi digwydd yn raddol, cyn i’r Ail Ryfel Byd ddechrau. Roedd pobl yn gwylio hawliau dynol unigolion yn diflannu a’u presenoldeb yn y gymuned yn lleihau, ond nid oeddent yn gwneud dim amdano. Cafodd rhai o’r cyfreithiau hyd yn oed eu cyhoeddi mewn papurau newyddion tramor, gan gynnwys Prydain. Cafodd Iddewon eu gwahardd rhag fod yn berchen ar radio pan roedd y Natsïaid mewn grym yn yr Almaen yn y 1930au.
Mae tystiolaeth fod hawliau dynol yn cael eu diddymu unwaith eto mewn enghreifftiau eraill o hil-laddiad, fel yn Cambodia yn y 1970au pan gafodd pobl eu gwahardd rhag fod yn berchen ar radio. Yn Rwanda yn y 1990au, crëwyd cardiau adnabod gorfodol a oedd yn dangos hil a chrefydd unigolyn, er mwyn gwahanu pobl.
Roedd pobl yn lleisio’u barn ar yr hyn a oedd yn digwydd ym mhob un o’r gwledydd hyn, ond fel arfer byddent yn cael eu harestio. Beth fyddai wedi digwydd pe bai mwy o bobl wedi lleisio’u barn ar y cyfreithiau a oedd yn diddymu eu hawliau dynol?
Yn 1943, cynhaliwyd y protestiadau Rosenstraβe pan gafodd 1,600 o Iddewon Almaeneg eu harestio dim ond oherwydd eu bod yn Iddewon, a cawsant eu carcharu yn Rose Street, Berlin. Bu gwragedd Almaenig y dynion yn ymgyrchu ac yn protestio, ac o ganlyniad cafodd y dynion eu rhyddhau gan yr awdurdodau.
Yn ystod y 2000au, bu Brian Steidle yn gweithio yn Sudan a bu’n dyst i’r hil-laddiad yn Darfur. Er nad oedd yn gallu ei atal tra roedd yno bu’n ymgyrchu er mwyn rhoi terfyn arno cyn gynted ag y dychwelodd i’r Unol Daleithiau. Cafodd gyfarfodydd gyda gwleidyddion, ysgrifennodd erthyglau a gwnaeth gyfweliadau ar y teledu er mwyn helpu i roi terfyn ar bobl yn cael eu llofruddio.
Darllenwch yr astudiaeth achos yn llawn neu os oes amser gennych, gwyliwch y ffilm
Wrth ddod i wybod am yr erchyllterau hyn gallwn ystyried beth y byddem yn ei wneud pe baem yn dyst i rywbeth fel hyn yn ein cymuned ni. A fyddem yn lleisio barn ac yn cwyno yn erbyn annhegwch? A fyddem yn ddigon dewr i siarad o blaid pobl pan nad ydym yn perthyn i’r grŵp sy’n dioddef neu’n cael ei drin yn wael? Neu a fyddem yn anwybyddu’r cyfan?
Mae’n anodd gwybod beth y byddem yn ei wneud, ond yr hyn sy’n sicr yw os diddymir hawliau dynol unigolyn, yn aml caiff ei wneud yn raddol, ac wrth aros nes iddo effeithio arnom ni, efallai y bydd yn rhy hwyr.
Thema Diwrnod Cofio’r Holocost eleni yw Dweud eich dweud, Dweud eich barn. Gallwn ddysgu am achosion o hil-laddiad sydd wedi digwydd yn y gorffennol ond gallwn hefyd fod yn wyliadwrus, cadw llygad am arwyddion a allai arwain at bobl yn cael eu trin yn annheg. Os byddwn yn ofni’r hyn a allai ddigwydd i ni, gallwn weithio gyda phobl eraill er mwyn atal pobl rhag cael eu trin yn annheg. Gallwn gefnogi grwpiau gwrth-fwlio yn yr ysgol neu gallwn ymuno â sefydliadau sy’n ceisio atal pethau rhag digwydd ledled y byd.
Wrth neilltuo diwrnod i ddysgu am yr Holocost ac achosion eraill o hil-laddiad, mae gennym gyfle i gofio am bobl a lofruddiwyd oherwydd casineb a rhagfarn. Gallwn hefyd feddwl am bethau y gallwn eu gwneud er mwyn sicrhau na fydd unigolion a grwpiau yn cael eu bwlio, eu hynysu, yn dioddef rhagfarn a’u lladd . Sut gallech chi Ddweud eich dweud, Dweud eich barn er mwyn creu dyfodol mwy diogel, gwell?
Cyfle i Fyfyrio:
Heddiw rydym yn cofio am yr holl bobl a lofruddiwyd am fod yn unigolion. Gallwn gymryd y cyfle hwn i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i helpu pobl sy’n dioddef oherwydd casineb pobl eraill a gobeithio y byddwn yn fodlon lleisio ein barn pan na fydd llais gan eraill.
Cerdd
gan y Gweinidog Martin Niemoller
First they came for the Communists
And I did not speak out
Because I was not a Communist
Then they came for the Socialists
And I did not speak out
Because I was not a Socialist
Then they came for the Trade Unionists
And I did not speak out
Because I was not a trade Unionist
Then they came for the Jews
And I did not speak out
Because I was not a Jew
Then they came for me
And there was no one left
To speak out for me.
- Secondary Assembly - Welsh Translation (PDF: 126405 KB)
